Talent Cymru
Sefydlwyd y cynllun Talent Cymru gan Gyngor Chwaraeon Cymru er mwyn darparu cefnogaeth ariannol i athletwyr sydd wedi’u dewis gan gyrff rheoli Cymru fel y rhai gyda photensial i fodloni meini prawf Llwybr y DG neu Élite Cymru ar gyfer chwaraeon heb fod yn rhan o’r Gemau Olympaidd, o fewn cyfnod o ddwy flynedd. Darperir cefnogaeth ariannol i athletwyr talentog ar gyfer cystadlu a hyfforddi (yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir gan y corff rheoli), offer a theithio. Telir dau ran-daliad i gyrff rheoli Cymru fel rhan o’r broses grant flynyddol ac maent yn ddarostyngedig i fonitro llym mewn perthynas â gwella perfformiad.
Sut i Wneud Cais
Bydd cyrff rheoli cenedlaethol wedi enwi ymgeiswyr posibl yn eu cynlluniau perfformiad uchel ac felly dylid cyfeirio pob ymholiad at y corff rheoli perthnasol yn y lle cyntaf.
