Llwybr Athletwyr Y DG
Ar 1 Ebrill 2006 daeth UK Sport yn gwbl gyfrifol am system berfformio chwaraeon elitaidd Lloegr a’r DG. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd y sefydliad yn gofalu am y cyfnod yn ystod gyrfa athletwr sy’n mynd ag ef o adnabod ei dalent i gyrraedd y podiwm. Mae UK Sport wedi derbyn cyfrifoldeb hefyd am gyfeiriad strategol Athrofa Chwaraeon Lloegr a’r Cynlluniau Ysgoloriaeth ar gyfer Athletwyr Talentog (yn cynnwys ysgoloriaethau 2012).

Yng Nghymru, ar gyfer chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, bydd y newid yn golygu na fydd athletwyr yn cael eu cyllido drwy gyfrwng cynllun Elite Cymru bellach. Yn hytrach, byddant yn cael eu cyllido a’u cefnogi drwy gyfrwng UK Sport a chyrff rheoli’r DG.
Wrth dderbyn y cyfrifoldebau newydd hyn, mae UK Sport wedi ailddiffinio’r telerau ar gyfer darparu cyllid a chefnogaeth ac mae wedi cyflwyno llwybr perfformio adolygedig. Ar gyfer chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd, bydd y strwythur newydd yn cymryd lle Rhaglen Berfformio o Safon y Byd UK Sport, Rhaglen Potensial Safon y Byd Sport England a’r rhaglen gyfatebol yng Nghymru, Élite Cymru.
Podiwm Safon y Byd: Bydd y rhaglen hon yn cefnogi chwaraeon gyda gallu realistig i gipio medalau yn y Gemau Olympaidd / Paralympaidd nesaf (hy uchafswm o bedair blynedd i ffwrdd o’r podiwm). Ar y lefel hon, mae asesiad o ragdybiadau medal realistig yn penderfynu ar y buddsoddiad sydd ei angen ym mhob camp gan ddefnyddio’r modelau a gyflwynwyd wedi Athen ar gyfer chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd. Bydd safleoedd yr athletwyr yn cael eu dosbarthu i gamp yn seiliedig ar gyfuniad o:
- ei chanlyniadau yn y Gemau diwethaf;
- enw da wrth gystadlu;
- gallu rhagdybiol i gipio medalau yn y dyfodol;
- gallu wedi’i arddangos i gynhyrchu athletwyr yn gyson drwy’r llwybr.
Darperir y gefnogaeth drwy gyfrwng rhaglen berfformio gyda’r corff rheoli a dyfarniad personol i’r athletwr.
Datblygiad o Safon y Byd: Diben y rhaglen hon yw cefnogi’r cam ar y llwybr yn union o dan y Podiwm. Bydd yn cynnwys chwaraeon sydd wedi dangos bod ganddynt allu realistig i ennill medalau yn 2012. Ar gyfer chwaraeon a gyllidir eisoes gan y Rhaglen Podiwm, dim ond drwy fuddsoddi yn y don nesaf o athletwyr talentog yn dod drwy’r system y gellir sicrhau eu llwyddiant parhaus. Mae athletwyr Olympaidd ar y lefel hon chwe blynedd fel rheol oddi wrth gyrraedd y podiwm ond gall yr amserlen hon fod yn llawer byrrach ar gyfer athletwyr Paralympaidd.
Mae chwaraeon eraill heb eu cyllido eto gan lefel y Rhaglen Bodiwm, ond ble ceir tystiolaeth o berfformiad sy’n dangos bod ganddynt botensial i ennill medal yn y cylch Olympaidd / Paralympaidd nesaf, yn gymwys ar gyfer eu hystyried am gyllid ar leffel Datblygiad o Safon y Byd. Yn ystod y cyfnod yn arwain at y Gemau yn 2012, yn ychwanegol ac yn eithriol, bydd Datblygiad o Safon y Byd yn cynnwys y chwaraeon hynny gyda gallu realistig i fod yn gystadleuol yn 2012 hefyd, er bod ennill medal yn annhebygol.
Talent o Safon y Byd: Diben y rhaglen hon yw cefnogi’r gwaith o adnabod a chadarnhau’r athletwyr sydd â photensial i wneud cynnydd drwy’r llwybr Safon y Byd, gyda chymorth buddsoddiad wedi’i dargedu. Bydd cyllid a ddarperir drwy gyfrwng y rhaglen yn galluogi i chwaraeon arenwi’r athletwyr gyda’r holl nodweddion priodol er mwyn sicrhau y gallant fynd ati i gystadlu’n effeithiol ar lwyfan y byd. Hefyd, bydd y rhaglen hon yn edrych ar fod yn fwy soffistigedig gyda chwaraeon yn mynd ati i ganfod athletwyr newydd ac edrych ar ffyrdd o drosglwyddo talent o gamp i gamp, lle bo hynny’n briodol. Bydd yr athletwyr Olympaidd uchafswm o wyth mlynedd oddi wrth y podiwm, ond eto gallai hyn fod yn llawer llai ar gyfer athletwyr Paralympaidd.
Bydd chwaraeon nad ydynt yn Olympaidd / Paralympaidd yn parhau i dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng cynllun Élite Cymru Cyngor Chwaraeon Cymru.

