Cwestiynau a Holir yn Aml
Sut allaf i dderbyn Cefnogaeth Wyddoniaeth Chwaraeon?
Os nad ydych wedi derbyn cefnogaeth eisoes, dylech gysylltu â’r Rheolwr Gwyddoniaeth Chwaraeon, Matt Cosgrove (029 20 338311 neu matthew.cosgrove@scw.co.uk) a fydd yn cydlynu cefnogaeth gan y gweithwyr proffesiynol priodol.
Pa mor aml fyddaf i’n gweld y Swyddog Gwyddoniaeth Chwaraeon?Gall hyn amrywio, gan ddibynnu ar beth rydych yn gweithio ac at beth rydych yn anelu. O ganlyniad, gallwch drafod eich disgwyliadau gyda’ch Swyddog Gwyddoniaeth Chwaraeon wrth i chi ddechrau cydweithio.
Pa mor gyfrinachol yw'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'n gilydd?
Mae’n rhaid i bob Swyddog Gwyddoniaeth Chwaraeon gad at God Ymddygiad Cymdeithas Prydain o Wyddoniaethau Chwaraeon ac Ymarfer (gweler www.bases.org.uk). Gellir trafod unrhyw faterion cyfrinachedd gyda’ch Swyddog Gwyddoniaeth Chwaraeon.
