Clybiau Chwaraeon Cymru
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) drwy gyfrwng y "Fframwaith ar gyfer Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol" yn cydnabod mai:
"Sylfaen y strwythurau domestig yw’r clybiau...Felly, bydd CChC yn canolbwyntio ar hyfforddi, datblygiad athletwyr yn yr hirdymor a datblygiad clwb."
Mae Adran Gwasanaethau’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol (GCRhC) wedi datblygu gwefan i ddarparu i Gyrff Rheoli Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol, clybiau chwaraeon a chlybiau gweithgarwch corfforol lu o sefydliadau / unigolion eraill gyda chyfarwyddyd ymarferol clir a chyngor defnyddiol ar gyfer pethau megis:- Sut i sefydlu clwb newydd – canllaw cam wrth gam o bethau i’w hystyried;
- Sut i wella / datblygu clwb presennol;
- Adnoddau / templadau / polisïau i’w llwytho – e.g. cyfansoddiadau, swydd-ddisgrifiadau, cynlluniau gweithredu clybiau, gwybodaeth am les;
- Cymorth ynghylch sut i ganfod clwb / cyfleusterau yn ardal eu ALl;
Cyngor ynghylch sut i recriwtio / dal gafael ar wirfoddolwyr / cynorthwywyr ar gyfer clwb.
Amcan gwefan Clybiau Chwaraeon Cymru yw helpu i sefydlu mwy o glybiau a gwneud y clybiau presennol yn well clybiau. Mae’r wefan yn cynnwys 2 brif adran:
- ‘Dechrau a Datblygu Eich Clwb’
- ‘Mynd â’ch Clwb Ymhellach’
Ym mhob adran fe welwch destun syml yn egluro’r is-adrannau a ganlyn i gyd:
- Aelodau;
- Hyfforddiant;
- Gwirfoddolwyr;
- Rhaglen Chwarae;
- Cyfleusterau;
- Rheoli Eich Clwb;
- Lles;
- Tegwch i Bawb.
Mae adnoddau i’w llwytho ar gael yn y wefan hefyd, ar gyfer pob is-adran, ynghyd â chysylltiadau ag ALl’au a CRhC.
Agorodd gwefan Clybiau Chwaraeon Cymru yn fyw ym mis Gorffennaf 2007. I weld y wefan cliciwch yma.
