Cyrff Rheoli

Rheoli

Mae gan y CRhC hynny sy’n cyflwyno cyfleoedd a llwyddiannau’n gyson reolaeth dda a gweithdrefnau cadarn.

Dylai CRhC fod yn gadarn, yn gynrychioliadol, yn atebol ac yn gynhwysol, gan arwain a rheoli’n effeithlon. Mae ‘Camp Fodern’ yn gallu dangos y nodweddion a ganlyn:

  • atebolrwydd llawn i’w aelodau, ei gyllidwyr a’i gyfranwyr i gyd;
  • trefniadau modern ac effeithlon ar gyfer rheoli;
  • strwythurau cyfreithiol priodol;
  • cynllunio busnes priodol;
  • arweiniad clir yn mynnu parch y chwaraewyr;
  • camp a reolir gan egni, brwdfrydedd ac angerdd;
  • swyddogaethau a disgwyliadau penodol i sicrhau’r cyfraniad gorau posibl gan aelodau’r bwrdd, y staff cyflogedig, y gwirfoddolwyr a’r chwaraewyr;
  • systemau eglur a chydymffurfiol ar gyfer rheoli a gweinyddu’r gamp;
  • ymrwymiad i safonau moesegol a chwarae teg;
  • ffynonellau amrywiol o refeniw;
  • partneriaethau’n gweithio i gyflwyno cyfleoedd cenedlaethol ar gyfer chwaraeon.

Mae’r adran hon yn cynnwys is-adrannau pellach yn rhoi sylw i’r materion a ganlyn:

Hunan Hyderus

Campau Modern

Tegwch

Cydnabyddiaeth

Amddiffyn Plant