Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Gofalwyr

Canfu astudiaeth ddiweddar gan Carers UK bod gofalu’n golygu cyfaddaawdu yn aml: cyfaddawdu lles cymdeithasol a chyfaddawdu iechyd a lles corfforol. Gall cael hyd i dir canol fod yn anodd iawn i ofalwyr sy’n methu sicrhau cydbwysedd teg rhwng byw a gofalu yn aml iawn. Ond mae’n bwysig bod gofalwyr yn cofio gofalu amdanynt hwy eu hunain hefyd oherwydd mae hynny’n sicrhau eu bod mewn gwell sefyllfa i ofalu am eraill.

Gall gofalu fod yn waith blinedig iawn ac efallai mai gweithgarwch corfforol a chwaraeon yw’r peth olaf ar feddwl y rhai sy’n cyflawni’r gwaith hwn, ond fe all roi hwb aruthrol i’r corff a’r meddwl. Bydd ymarfer yn rheolaidd o gymorth i ofalwr llawn neu ran-amser drwy:

  • gwella iechyd yn gyffredinol;
  • cynyddu egni;
  • cysgu’n well;
  • lleddfu straen;
  • cynyddu hyder;
  • ailadeiladu bywyd cymdeithasol;
  • gwella agwedd a’r gallu i ymdopi.

Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC

Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):

Cyflwyniad Gwirfoddol