Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Pobl Hyn

Cadw’n egnïol gorfforol yw un o’r ffyrdd gorau o gadw eich annibyniaeth mewn henoed.Mae’n anochel ein bod ni i gyd yn mynd yn hyn ond does dim rhaid i’n hiechyd ddirywio. Profwyd bod ymarfer rheolaidd ymhlith pobl hyn yn helpu gyda:

  • symud yn rhwydd a pharhau’n annibynnol;
  • lleihau’r tebygolrwydd o godymu;
  • lleihau insomnia a phroblemau cysgu;
  • lleihau’r anghyfforddusrwydd a brofir gan y rhai sy’n dioddef o arthritis a chlefyd Parkinson;
  • lleddfu straen;
  • gwella hwyliau a lles yn gyffredinol.

Yn syml, bod yn egnïol yn gorfforol yw un o’r ffyrdd gorau o aros yn annibynnol yn nes ymlaen yn eich oes.

Am syniadau sut i aros yn fywiog wrth dyfu’n hynaf cliciwch yma.

Astudiaethau achol perthnasol:

I weld sut mae trigolion y Drenewydd yn dysgu fod hi byth yn rhy hwyr i fod yn egnïol cliciwch yma

Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC

Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):

Cyflwyniad Gwirfoddol