Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Iechyd Meddwl

Rydym i gyd yn gwybod bod ymarfer yn dda i’r corff ond ceir mwy a mwy o dystiolaeth ei fod yn dda i’r meddwl hefyd.

Yn ogystal â sicrhau bod y galon a’r ysgyfaint yn pwmpio, gall gweithgarwch corfforol:

  • lleddfu emosiynau negyddol;
  • ei gwneud yn haws i chi gysgu;
  • lleddfu pryderon;
  • gwella hunanhyder a delwedd y corff;
  • rhoi hwb i egni;
  • newid agwedd a chreu synnwyr cyffredinol o les meddyliol.

Gwelwyd bod sesiynau gweithgarwch corfforol yn helpu unigolion i allu byw’n annibynnol. Mae pobl wedi ailddechrau cymysgu yn eu cymuned ac wedi adfer eu hyder yn sgil ymarfer.

Yn allweddol, ar gyfer y rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, mae ymarfer yn gallu bod yn rhywbeth cymdeithasol, gan leihau’r teimlad cyffredin o fod yn ynysig.

Astudiaethau achol perthnasol:

I weld sut wnaeth Llamau cyf, elusen pobl ifanc ym Mro Morgannwg, elwa o’r hyn mae gweithgaredd corfforol yn cynnig i’w staff a defnyddwyr gwasanaeth,cliciwch yma.

Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC

Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):

Cyflwyniad Gwirfoddol