Sut allwn ni helpu
Ceir sawl ffordd o helpu’r bobl yr ydych yn gweithio â hwy bob dydd. Rydych yn gwybod beth yw eu diddordebau a beth maent yn ei hoffi neu ddim. Gallwch fesur beth fyddai’n eu darbwyllo i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Byddwn yn eich helpu chi i weithredu eich syniadau ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl leol a all helpu i symud eich prosiect yn ei flaen. Am rhagor o gymorth gwelwch y Cysylltiadau defnyddiol yma. Os ydych yn lansio prosiect newydd, efallai y gallwn eich helpu gyda’r costau sefydlu, fel prynu offer. Neu os yw cyfyngiadau adeilad yn rhwystr i chi, efallai y gallwch wneud cais am gyllid grant ar gyfer mân-welliannau i eiddo.
Gallwn helpu gyda chostau hyfforddi ar gyfer arweinwyr a hyfforddwyr gwirfoddol hefyd. A chyda modelau o brosiectau llwyddiannus wrth law, gallwn sicrhau eich bod yn dilyn system sydd wedi’i phrofi er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o’r fenter.
I weld sut gallai rhaglen o weithgarwch corfforol helpu eich sefydliad chi, dilynwch y cysylltiadau ar yr ochr neu ffoniwch swyddog cefnogi rhanbarthol:
Gogledd Cymru – 0845 045 0908
De Ddwyrain Cymru – 0845 045 0904
De Orllewin Cymru – 0845 045 0906
Neu anfonwch e-bost atom yn scw@scw.org.uk
