Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Clybiau Chwaraeon

Cael hyd i aelodau newydd ar gyfer… estynwch allan i'r gymuned ac ehangwch eich rhaglen gweithgareddau

clybiau rygbi…clybiau pêl droed…clybiau tenis…clybiau criced…clybiau rhedeg…clybiau athletau…grwpiau chwaraeon ymladd…canolfannau hamdden…clybiau iechyd…

Wrth redeg eich clwb chwaraeon lleol, rydych bob amser yn chwilio am aelodau newydd a chyfleoedd i godi arian. A gallech gyflawni’r ddau amcan yma drwy estyn allan i’r gymuned ac ehangu eich rhaglen o weithgareddau.

Pa gamp bynnag yr ydych yn cymryd rhan ynddi, gallwch ddefnyddio eich cyfleusterau i wella proffil y clwb a sicrhau refeniw ychwanegol.

Er enghraifft, a ydych wedi ystyried...?

  • Cael rhieni i fod yn egnïol wrth iddynt ollwng eu plant;
  • Dosbarthiadau aerobics, dawns neu ffitrwydd yn y clwb neu yn yr awyr agored;
  • Sesiynau hwyl i’r teulu yn eich parc neu yn y cae chwarae lleol;
  • Cynghreiriau cymdeithasol cymysg – pêl rwyd neu bêl foli cymysg;
  • Grwpiau cerdded, beicio neu loncian yn dechrau ac yn gorffen yn y clwb.

Gydag ychydig o ymdrech, gallai eich clwb fod yn ganolfan gweithgarwch corfforol eich cymuned. Gallech wahodd busnesau lleol i ddefnyddio eich cyfleusterau hyd yn oed, neu estyn allan a chroesawu’r grwpiau llai egnïol i’ch clwb.

Hefyd gallech roi cynnig ar addasu eich camp eich hun i gynnwys y llai ystwyth. Os ydych yn rhedeg clwb rygbi, beth am gynnwys cyn-chwaraewyr, feterans neu dimau cymysg mewn Rygbi TAG? Os yn glwb athletau, beth am gyflwyno adran gerdded·

Drwy gynnwys eich cymuned, gall eich clwb ddenu diddordeb ysgolion, busnesau a grwpiau gwirfoddol lleol – ffordd ddiogel o greu llif newydd o aelodau parod i gymryd rhan.

Drwy wneud y defnydd gorau o’r cyfleusterau, byddwch yn codi arian tra’n gwneud yr hyn sy’n naturiol i chi – cael mwy o bobl yn fwy egnïol yn amlach. A gall y Cyngor Chwaraeon eich helpu gyda hyn.

Mae gwefan un-pwrpas wedi’i sefydlu i gynnwys pob agwedd o glybiau chwaraeon. Bwriad Clybiau Chwaraeon Cymru yw cynnig cymorth ymarferol ynghylch sut i ddechrau a datblygu eich clwb i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’ch aelodau. Mae’n cynnig syniadau a thempladau ar sut i sefydlu a rhedeg clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol ac yn darparu llawer o dempladau syml i chi eu llwytho a’u defnyddio.