Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Cymorth Arall

Ceir asiantaethau eraill sy’n cynnig cyngor a chymorth, i gyd-fynd â’n gwaith yn y Cyngor Chwaraeon.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol CymruOs ydych angen cefnogaeth fel corff gwirfoddol, mae CGGC yn cynnig cyngor ar gyfer y sector gwirfoddol ledled Cymru.

Pan fyddwch yn ymuno, byddwch yn derbyn cyngor a gwybodaeth am gyfleoedd, materion a sut orau i reoli sefydliad gwirfoddol.

Bydd eich barn am faterion amrywiol yn cael ei chlywed a bydd y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau yn y Llywodraeth yn cael gwybod beth yw eich safbwynt chi. Byddwch yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost ac yng nghylchgrawn yr aelodau ac yn elwa o amrywiaeth o ostyngiadau ar gynhyrchion a gwasanaethau. Hefyd, bydd cynnydd yn eich rhwydweithio drwy gyfrwng achlysuron penodol.

Am wybodaeth bellach, ewch am dro i www.wcva.org.uk neu anfonwch e-bost at help@wcva.org.uk. Neu gallwch ffonio desg gymorth CGGC ar 0800 2888 329

Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS’au)
a elwir hefyd yn Gynghorau ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol (CGG’au)

Swyddogaeth y Cynghorau Gwirfoddol Sirol yw darparu amrywiaeth eang o gyngor i sefydliadau gwirfoddol lleol. Yn ogystal â chynrychioli’r sector gwirfoddol ar bartneriaethau traws-sector, maent yn cynghori ynghylch arfer dda, yn darparu gwybodaeth am ffynonellau cyllid ac yn helpu gyda llu o faterion eraill.

Cliciwch ar eich awdurdod lleol i ganfod y map sydd yn cynnwys y mudiad chwaraeon perthnasol yn eich hardal