Gofalwyr
Canfu astudiaeth ddiweddar gan Carers UK bod gofalu’n golygu cyfaddaawdu yn aml: cyfaddawdu lles cymdeithasol a chyfaddawdu iechyd a lles corfforol. Gall cael hyd i dir canol fod yn anodd iawn i ofalwyr sy’n methu sicrhau cydbwysedd teg rhwng byw a gofalu yn aml iawn. Ond mae’n bwysig bod gofalwyr yn cofio gofalu amdanynt hwy eu hunain hefyd oherwydd mae hynny’n sicrhau eu bod mewn gwell sefyllfa i ofalu am eraill.
Gall gofalu fod yn waith blinedig iawn ac efallai mai gweithgarwch corfforol a chwaraeon yw’r peth olaf ar feddwl y rhai sy’n cyflawni’r gwaith hwn, ond fe all roi hwb aruthrol i’r corff a’r meddwl. Bydd ymarfer yn rheolaidd o gymorth i ofalwr llawn neu ran-amser drwy:
- gwella iechyd yn gyffredinol;
- cynyddu egni;
- cysgu’n well;
- lleddfu straen;
- cynyddu hyder;
- ailadeiladu bywyd cymdeithasol;
- gwella agwedd a’r gallu i ymdopi.
Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC
Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):
