Pobl Ieuainc
Mae 10% o bobl ieuainc y tu allan i fyd addysg, hyfforddiant a gwaith. Maent wedi’u heithrio o bopeth y mae’r 90% sy’n weddill yn eu cymryd yn ganiataol, yn cynnwys chwaraeon a hamdden.
Gall rhoi’r un cyfleoedd â’u cyfoedion i’r ieuentcid hyn helpu i’w cymell, gan feithrin hyder ynddynt a lleihau lefel yr ymddygiad negyddol.
Drwy ddarganfod gweithgareddau a diddordebau newydd fel syrffio neu ddringo creigiau, gall ieuenctid sydd mewn helbul ddysgu i gredu yn eu potensial hwy eu hunain a dysgu sgiliau defnyddiol i’w defnyddio wrth wynebu problemau mwy penodol.
Gyda chefnogaeth bersonol hirdymor hefyd, gall gweithgareddau heriol roi’r bobl ieuainc hyn yn ôl ar y llwybr priodol i fod yn rhan o’u cymdeithas unwaith eto.
Astudiaethau achol perthnasol:
I weld sut mae Eglwys Deuluol Coastlands yn y Barri wedi datblygu amrywiaeth o weithgareddau dan do ac yn yr awyr agored ar gyfer bobl ifanc leol, cliciwch yma
Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC
Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):
