Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Y Sector Iechyd

Mae ymarfer yn dda i bawb! Mae astudiaethau o weithgarwch corfforol yn dod i’r un casgliad yn gyson – mae ymarfer yn beth da i bawb! Mae dim ond 30 munud o weithgarwch cymedrol ddwys bum niwrnod neu fwy yr wythnos yn gallu helpu i’ch gwarchod rhag sawl salwch difrifol sy’n gallu arwain at farw cyn eich amser.

Wrth gwrs, mae ymarfer yn fwy nag arf ataliol. Mae ymarfer am hanner awr bob dydd yn gallu gwella bywyd i’r rhai gyda chyflyrau iechyd eisoes. Gall ymarfer yn rheolaidd ostwng pwysedd gwaed a lefelau colesterol a helpu i leihau’r risg o:

  • trawiad ar y galon;
  • strôc;
  • gordewdra;
  • y clefyd siwgr;
  • rhai mathau o gancr;
  • osteoporosis.

Astudiaethau achol perthnasol:

I weld sut mae cleifion adferiad Cardiaidd yn Rhondda Cynon Taf wedi cael lles o grant Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru, cliciwch yma.

Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC:

Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):

Voluntary Presentation