Y Sector Gwirfoddol a Chymunedol
Mae’r sector gwirfoddol yn cynnig cyfle gwych i Gyngor Chwaraeon Cymru weithio gyda byd cwbl newydd.
Mae nifer o grwpiau gwirfoddol yn sylweddoli bod gweithgarwch iach yn gallu arwain at adfywiad cymdeithasol, integreiddio a llai o droseddu. A chyda phortffolio mor amrywiol, mae’r sector yn gallu cyrraedd pob adran o’r gymuned a chysylltu gyda’r bobl sydd fwyaf mewn angen.
Pa un ai yw eich sefydliad yn fach a lleol neu’n rhwydwaith cenedlaethol mawr, rydym yn awyddus i geisio cydweithio. Fel sefydliad sy’n meddwl am les pobl, rydych mewn sefyllfa ddelfrydol i annog gweithgarwch corfforol ac i helpu pobl i newid eu bywyd er gwell.
Wrth i chi weithio gyda’r Cyngor Chwaraeon, bydd pawb yn elwa. Gallwch ein helpu ni i sicrhau bod mwy o bobl yn egnïol yn amlach a byddwch yn gwella iechyd y genedl. Yn ei dro, bydd hyn o gymorth i chi wneud gwahaniaeth positif i fywydau’r bobl yn eich gofal.
Dyma gyngor o'r Cyngor Chwaraeon ar y cymorth ar gael i helpu'ch mudiad.
