Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Sut allwn ni helpu

Rydym yma i’ch helpu i redeg eich gweithgareddau, gan ddarparu cyfarwyddyd o’r syniad gwreiddiol i’w weithredu’n iach.

Byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl leol a all eich helpu i ddewis gweithgareddau addas i’ch sefyllfa. Byddwn yn eich helpu i gael hyd i hyfforddwr neu arweinydd sesiwn i wneud i’ch rhaglen redeg yn esmwyth. A byddwn yn helpu gyda chost hyfforddi arweinwyr gwirfoddol fel eu bod yn cael cymryd yr awennau a sicrhau cyn lleied ag y bo modd o gost.

Os ydych yn sefydlu prosiect lleol, gall grant refeniw bychan fod o gymorth i dalu costau’r offer. A phan fydd eich adeilad angen ei wella ar gyfer gweithgareddau corfforol, gallwn ddarparu cymorth grant i dalu am welliannau bychain – gan wneud yn siwr bod eich gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn amgylchedd cynnes a diogel.

Am fanylion pellach ynghylch sut all y Cyngor Chwaraeon eich helpu, ffoniwch y swyddog rhanbarthol:

Gogledd Cymru – 0845 045 0908

De Ddwyrain Cymru – 0845 045 0904

De Orllewin Cymru – 0845 045 0906

Neu anfonwch e-bost atom: scw@scw.org.uk

Neu, os am wybodaeth bellach am y grantiau a’r cyllid sydd ar gael, cliciwch yma: