Pobl Ieuainc Egnïol

AGChY4athrawon

PES logo-sml

"Croeso i AGChY i Athrawon (PESS4teachers), gwefan benodol ar gyfer athrawon AG ledled Cymru sy’n arddangos enghreifftiau o arfer dda fel rhan o'r cynllun AGChY.

Mae’n hawdd iawn defnyddio’r wefan. I ddechrau, rydych yn dewis Cyfnod Allweddol perthnasol ac yna, gan ddefnyddio’r cyfleuster chwilio, gallwch ddewis Meysydd Profiad a’r arfer dda sydd o ddiddordeb i chi.

Mae’r Ymgynghorwyr o’r CD’au a’r Ymgynghorwyr AG wedi dewis y prosiectau a’r prosesau hyn fel arfer dda i athrawon ledled Cymru ddysgu oddi wrthynt a helpu i godi’r safonau wrth gyflwyno AG.

Mae pob esiampl o arfer dda’n egluro pam y cynhaliwyd y prosiect, beth wnaeth yr ysgol a cheir straeon am lwyddiant yr arferion da. Hefyd, gallwch weld delweddau, fideos a dyfyniadau am effaith yr arfer dda ar yr ysgol gyfan yn gyffredinol.

Mae nifer o’r enghreifftiau o arfer dda’n cynnwys cysylltiadau ag adnoddau a oedd yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiectau, yn cynnwys unedau gwaith, deunyddiau cefnogi ac asesiadau y gallwch eu lawrlwytho a’u haddasu wedyn i ddiwallu eich anghenion chi a’ch helpu gyda chyflwyno AG."