ActiveMarc Cymru
Beth yw achrediad ActiveMarc Cymru?
Dyfernir ActiveMarc Cymru i ysgolion sy’n gallu dangos ymrwymiad i ddatblygu AG a Chwaraeon Ysgol o safon uchel. Pan fydd ysgol yn gwneud cais am ddyfarniad ActiveMarc Cymru, mae’n ymrwymo i broses o hunanwerthuso gan arenwi cryfderau a meysydd ar gyfer eu datblygu. Mae’r ffurflen gais yn unol â fframwaith Estyn, yn seiliedig ar y 7 cwestiwn allweddol.
Pwy all wneud cais?
- Ysgolion Cynradd
- Ysgolion Babanod
- Ysgolion Gynradd
- Ysgolion Uwchradd
- Ysgolion Arbennig
- Ysgolion Annibynnol
Nid canfod yr ysgolion gyda’r cyfleusterau gorau yw diben ActiveMarc Cymru. Mae’r ffocws ar ddarpariaeth o ansawdd dda a safonau uchel.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
Bydd yr ysgolion a fydd yn derbyn statws ActiveMarc Cymru’n derbyn tystysgrif ac yn gallu arddangos logo ActiveMarc Cymru ar ddogfennau’r ysgol a’i gwefannau am 3 blynedd.
Pryd i wneud cais am ActiveMarc Cymru?
Gall ysgolion wneud cais yn awr am ActiveMarc Cymru 2009-10. Mae yna ddau ddyddiad cau yn y flwyddyn academaidd hon:
- Rownd 1: 27ain Tachwedd 2009 (newyddion y penderfyniadau mis Chwefror)
- Rownd 2: 30ain Ebrill 2010 (newyddion y penderfyniadau mis Gorffennaf)
Gall ysgol wneud cais yn rownd 2 petai nhw’n aflwyddiannus yn rownd 1.
Sut a pryd i Wneus Cais am ActiveMarc Cymru?
Llwythwch lawr y ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd oddi yma:
Ffurflen gais Gymraeg
Cyfarwyddiadau Cymraeg
Darllenwch y cyfarwyddiadau yn ofalus am ragor o wybodaeth a cyn cwblhau y ffurflen gais.
Gofynnir i chi ddanfon eich ffurflen gais i activemarc@scw.org.uk. Peidiwch a danfon copïau caled drwy'r post.ïNo hard copies should be sent.
Gwybodaeth Diweddaru:
Bydd gwybodaeth ar bresenoldeb sydd yn cael ei ddatgan i Gyngor Chwaraeon Cymru drwy raglenni Campau'r Ddraig a 5x60 yn cael eu hystyried wrth asesu ceisiadau ActiveMarc Cymru.
Gwybodaeth Newydd
2009-10 Rownd 1
Datganiad y Wasg 25ain Hydref - Western Mail
Erthygl ar Ysgolion yn Anelu at Wobr Newydd am Weithgarwch gan Abbie Wightwick.
Mae'r dyfarniad ansawdd ActiveMarc wedi'i ddatblygu rhwng y Gymdeithas Dros Addysg Gorfforol (afPE) a Cyngor Chwaraeon Cymru. Am ragor o wybodaeth sut i fod yn aelod o afPE, ewch i www.afpe.org.uk
