Pobl Ieuainc Egnïol

Rhaglen 5 x 60

Mae’n fwriad i’r rhaglen 5x60 gyfrannu’n helaeth at darged Llywodraeth y Cynulliad o gael 90% o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos erbyn 2020. Ar hyn o bryd, mae 99% o’r ysgolion uwchradd yn ymwneud â chynllun 5x60.

Bydd 5x60 yn newid y modd y mae chwaraeon yn cael eu darparu mewn ysgolion ac yn trawsnewid caeau chwarae a neuaddau chwaraeon yn fwrlwm o weithgarwch o fore gwyn tan nos. Lleolir y swyddogion 5x60 yn yr ysgolion uwchradd a’u swyddogaeth hwy yw ymgynghori â’r disgyblion, gwrando ar eu hanghenion a dod i ddeall pa rwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau. Byddant yn llunio amserlen o weithgareddau sy’n addas i anghenion y disgyblion. Gellir cynnal y gweithgareddau hyn cyn yr ysgol yn y bore, yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol ac ar benwythnosau. Bydd y gweithgareddau’n targedu unigolion nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd yn bennaf, neu’r unigolion sydd mewn perygl o golli diddordeb.

Y mathau o weithgareddau sydd wedi bod yn llwyddiannus yw:

  • Gweithgareddau cystadleuol traddodiadol. Byddai hwn yn barhad i’r mathau o weithgareddau y byddent wedi’u mwynhau eisoes fel rhan o Gampau’r Ddraig, yn ogystal â chwaraeon newydd eraill fel pêl osgoi, pêl fasged a badminton. Gellir cynnig y gweithgareddau hyn drwy gyfrwng cystadleuaethau mewnol / rhwng dosbarthiadau a sicrhau bod llawer mwy o ddisgyblion yn dal ati i gymryd rhan.
  • Gweithgareddau hamdden fel dawns, aerobics, ffitrwydd a thrampolinio – mae galw mawr wedi bod am y math yma o weithgareddau yn y rhaglenni blaenorol.
  • Gweithgareddau a hyfforddir mewn awyrgylch mwy anffurfiol gan roi cyfle i’r disgyblion ddysgu lefel resymol o sgiliau a thrwy hynny fwynhau’r gêm neu’r gamp ychydig yn fwy.
  • Gweithgareddau yn yr Awyr Agored – mae gan Gymru adnoddau naturiol rhagorol sydd ar gael i bawb. Cynigir i bobl ieuainc gyfle i brofi gweithgareddau fel arfordiro, syrffio, canŵio, dringo a beicio mynydd. Mae’r profiad hwn yn meithrin hyder ynddynt i ddal ati i ddilyn y diddordebau hyn pan maent yn oedolion.

Mae cael hyd i gyflwynwyr addas yn rhan allweddol bwysig o waith y swyddog 5x60. Maent yn darparu cyfleoedd hyfforddi i’r disgyblion hŷn yn yr ysgol ac mae hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen. Mae’r hyfforddiant yn darparu i’r disgyblion gymhwyster ac yn eu galluogi i gyfrannu at y gweithlu drwy gyfrwng y cymhwyster hwn. Mae gwirfoddolwyr a hyfforddwyr o’r gymuned leol yn ymwneud â chyflwyno’r rhaglen o weithgareddau hefyd.