Pobl Ieuainc Egnïol

Hyfforddiant a DPP

Datblygiad Proffesiynol Parhaol

Yn 2001, argymhellodd y Tasglu AG a Chwaraeon Ysgol y dylid arenwi meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu athrawon addysg gorfforol ac y dylid cymryd camau i roi sylw i unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth. I’r diben hwn, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cynnal dau arolwg ar yr athrawon mewn Canolfannau Datblygu er mwyn asesu eu lefelau hyder a’r angen am Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Adroddiad Arolwg 2003 Adroddiad Arolwg 2005

Dewisodd Panel DPP y cynllun AGChY dri ‘bwlch’ allweddol ar gyfer datblygiad cenedlaethol oddi mewn i’r prosiect:

1.Integreiddio disgyblion gydag anghenion ychwanegol neu anableddau corfforol

2Mentora Addysg Gorfforol mewn ysgolion cynradd

3. Asesu Risg

Rydym wedi bod yn gweithio tuag at ddatblygu cyfleoedd ac adnoddau DPP i roi sylw i’r materion hyn.

Mae’r gwaith hwn yn ychwanegol at y prosiectau arbenigol sef Ymarfer Cysylltiedig ag Iechyd, y defnydd o TGCh mewn AG, Gymnasteg a Dawns, y mae hyfforddiant ac adnoddau eisoes yn cael eu creu ar eu cyfer er mwyn diwallu’r anghenion a nodwyd gan y Tasglu Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol a’r Canolfannau Datblygu cynnar.

Cod Ymarfer

Mae Safonau DPP mewn AG a’r Cod Ymarfer wedi’u llunio er mwyn egluro’r disgwyliadau y dylai athrawon a darparwyr AG eu darparu mewn perthynas â chyfleoedd datblygu proffesiynol. Mae’r ddogfen yn pennu’r safonau ar gyfer gweithgareddau DPP mewn AG, gan gefnogi darpariaeth o safon uchel ledled Cymru.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) wedi llunio Cod Ymarfer mewn cydweithrediad â BAALPE fel rhan o’r Prosiect AG a Chwaraeon ysgol, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae cyfleoedd i ddatblygu’n broffesiynol yn rhan allweddol o’r prosiect hwn. Gobeithir y bydd parodrwydd i gadw at y Cod Ymarfer hwn yn helpu i godi safonau ledled Cymru. I weld y Canllawiau ar gyfer y Cod Ymarfer, cliciwch ar Canllawiau y Cod Ymarfer. I weld Cod Ymarfer y cynllun AGChY, cliciwch ar Cod Ymarfer Cynllun AGChY.

______________________________________________________________________________________________________________