Pobl Ieuainc Egnïol

Prosiectau Arbenigol

Gwelwch y Prosiectau Arbenigol yma. Fel dewis arall, cliciwch ar y cysylltiadau isod am wybodaeth bellach.

Gymnasteg Gymnastics

Dull cynyddol o ddysgu gymnasteg fel rhan o broses ddiogel, hwyliog a syml. Mae Modiwl 1 yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd i fod yn unol â’r Cyfnod Sylfaen newydd, mae cyrsiau ac adnoddau Modiwl 2 yn parhau i gael eu hehangu ac mae Modiwlau 3 a 4 yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Iechyd, Ffitrwydd a Lles

Dull syml ac effeithiol o gyflwyno IFfLl drwy gyfrwng pob agwedd ar AG ac AbaCh. Mae’r cyrsiau a’r adnoddau cynradd ac uwchradd yn cael eu hehangu ar hyn o bryd i bob ysgol. Mae Ffitrwydd Iechyd a Lles yn amnewid y cwrs Ymarfer Cysylltiedig ag Iechyd . Mae diweddariad dogfennau IFfLl Awst 2008 ar gael yma.

Dawns

Mae cyrsiau ac adnoddau (gwefan, cardiau a CD) ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2 ar gael yn awr ac yn cael eu hehangu. Mae Dawns ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a CA3 yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a dylent fod ar gael y flwyddyn academaidd hon. Hefyd, mae cyrsiau ar gyfer mentoriaid athrawon ac ymarferwyr dawns yn cael eu hehangu ar hyn o bryd, ynghyd â chyfres o weithdai arfer orau ar gyfer athrawon drwy gyfrwng partneriaeth gyda Dawns Cymunedol Cymru.

TGCh mewn AGComputer03a

Cynhaliwyd dwy gynhadledd lwyddiannus yn darparu sgiliau a syniadau ymarfer i athrawon ar gyfer integreiddio TGCh mewn AG. Mae continiwm o ddefnydd cynyddol o TGCh mewn AG wedi’i ddatblygu ac fe’i cefnogir gan gyfres o weithdai a fydd ar gael drwy gyfrwng cynadleddau pellach. Mae prosiect trawsnewid i ddechrau y continiwm yn cael ei lawnsio yn Sir Fynwy yn Ebrill 2007.

Cynhwysiad

Mae cyfres o weithdai’n para tridiau wedi cael ei hachredu i gefnogi’r maes hwn. Oherwydd anawsterau a chyfyngiadau amser, mae’r pecyn hwn yn cael ei gynnig yn awr fel cwrs undydd, gydag ail a thrydydd ddyddiau ar gael i’r rhai sy’n dymuno cymryd y pecyn cyfan ac ennill y cymhwyster. Mae DVD wedi cael ei chreu i gyd-fynd â’r cwrs hwn. Bydd y cwrs undydd ar gael o fis Ionawr 2010.

Yn Y Parth In the zone (e-w)

Mae’r cwrs hyfforddi a’r adnodd rhyngweithiol ar gyfer goruchwylwyr canol dydd yn sicrhau rheolaeth effeithiol ar yr iard chwarae yn yr ysgol.

Cynradd - Yn Y Parth"

Yn Y Parth - ysgol uwchradd


Gweithgareddau Anturus (GA)

Mae hwn yn brosiect newydd sy’n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r grwp o ymgynghorwyr ar gyfer addysg awyr agored yng Nghymru. Mae OEAP wedi datblygu cardiau Dysgu Awyr Agored sy’n cael eu hehangu ar hyn o bryd i ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda chwrs hyfforddi undydd ar gyfer athrawon.

Y Cyfnod Sylfaen

Mae Fframwaith y Cyfnod Sylfaen ar gyfer Addysg Plant 3-7 oed yng Nghymru’n dod yn ofynnol yn gyfreithiol drwy gyfrwng Gorchymyn a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru a daw i rym fis Medi 2008 ar gyfer pob plentyn 3-4 oed.