Oedolion Egnïol

Dewch i Gerdded Cymru

Let's Walk CymruMenter newydd ledled Cymru yw ‘Let’s Walk Cymru’ a’i diben yw cynyddu nifer y bobl sy’n mynd ati i gerdded fel gweithgaredd rheolaidd. Mae cerdded yn weithgaredd allweddol a all gyrraedd y bobl fwyaf segur yng Nghymru.

  • Rydym yn gwybod bod cerdded yn gyflym yn un o’r gweithgareddau mwyaf llesol i chi gymryd rhan ynddynt – mae am ddim, yn gyfleus ac ar gael i bawb;
  • Mae amgylchedd naturiol Cymru’n cynnig digon o gyfleoedd i chi ddod i adnabod eich cymuned, eich ardal a’ch gwlad.

Mae ffocws rhaglen ‘Let’s Walk Cymru’ ar dargedu’r boblogaeth segur a’r rhai a fydd yn elwa fwyaf. Mae’r rhaglen yn ceisio edrych ar ffyrdd newydd a gwreiddiol o hybu cerdded er mwyn gwella iechyd a lles. Amcan ‘Let’s Walk Cymru’ yw ehangu’r rhaglenni traddodiadol o deithiau cerdded er budd iechyd a darparu cyfleoedd o garreg y drws i’r mynyddoedd. Mae hefyd yn annog prosiectau i ddefnyddio dull wedi’i dargedu o weithio gyda grwpiau penodol.

Ceir cyfle i wneud cais am grant i ehangu prosiectau cerdded sydd wedi’u sefydlu eisoes ac i ddatblygu rhai newydd. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â http://www.lets-walk-cymru.org.uk/home?diablo.lang=cym.