Oedolion Egnïol

Criterion Ariannu

  • Fel lleiafswm, nofio am ddim i oedolion 60 oed a hyn yn ystod yr holl sesiynau nofio cyhoeddus y tu allan i wyliau’r ysgol. Anogir Awdurdodau Lleol i ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys yr holl sesiynau cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn, lle bo hynny’n bosibl.
  • Bydd lleiafswm o 1 awr y dydd ym mhob awdurdod lleol, a lleiafswm o 1 awr yr wythnos ym mhob pwll, yn cael ei neilltuo’n benodol ar gyfer sesiwn gweithgarwch strwythuredig am ddim, fel gwersi nofio, aerobics dwr / chi dwr. Dylid targedu’r gweithgareddau hyn yn lleol a sicrhau darpariaeth gynhwysol ar gyfer pobl hyn gydag anabledd er enghraifft, neu grwpiau duon a lleiafrifoedd ethnig, siaradwyr Cymraeg a grwpiau sydd wedi’u rhoi at ei gilydd yn unol ag amgylchiadau lleol, anghenion a blaenoriaethau.
  • Anogir awdurdodau i ddarparu cymorth a mentrau ar gyfer y rhai sy’n gofalu am bobl hyn a’r rhai sy’n hwyluso mynediad i raglen nofio leol am ddim – bydd y gwerthusiad yn ceisio adnabod arfer dda a blaengaredd.
  • Un rôl allweddol i awdurdodau lleol a’u Cydlynwyr Nofio Am Ddim penodol fydd cysylltu â’r cyhoedd yn gyffredinol, ac yn arbennig â’r unigolion a’r cymunedau sydd fwyaf anodd eu cyrraedd ac sydd â’r angen mwyaf. Mae hyn yr un mor berthnasol i’r cynllun 16 oed ac iau ag ydyw i’r cynllun 60+.
  • Mae’n bwysig nodi bod pobl hyn yn fwy tebygol o ddioddef o anabledd. Mae bron i hanner y bobl gydag anabledd yn y DG yn 65 oed a hyn ac mae’r problemau mwyaf cyffredin yn ymwneud â symud, gweld a chlywed. Fodd bynnag, ceir nifer o fentrau hybu iechyd a chyfarwyddyd ar gyfer grwpiau penodol sy’n bodoli eisoes, er enghraifft, Heini ar gyfer Bywyd: canllaw i ymarfer yn ddiogel ar gyfer pobl gyda llid y cymalau gan y Gymdeithas Gofalu am Lid y Cymalau, a Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Gorfforol ar gyfer Pobl â Nam ar y Golwg gan Gyngor Deillion Cymru.