Teuluoedd
Mae rhieni a gwarcheidwaid ar hyd a lled y wlad yn ei chael yn anodd i ddarganfod ffyrdd newydd a chyffrous o ddiddanu’r teulu yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae penwythnosau’n gallu bod yn faich hefyd!

I oedolion sy’n ei chael yn anodd i gynnwys ymarfer yn eu diwrnod oherwydd ymrwymiadau teuluol, mae cydymarfer yn ateb perffaith. Pa well ffordd i annog y plant i fod yn egnïol na thrwy gymryd rhan eich hun. Mae eu cefnogi i fyw’n egnïol yn ffordd berffaith i sicrhau eu bod yn tyfu’n oedolion iach ac egnïol. Nid yw eu rhoi i eistedd i lawr o flaen teledu neu gêm gyfrifiadurol o unrhyw fudd i hynny!
Mae’n hanfodol cael plant i ymarfer o oed ifanc – nid dim ond er mwyn eu helpu i gynnal pwysau corff addas ond hefyd i helpu i ostwng y risg o broblemau iechyd pan fyddant yn hyn, fel afiechyd ar y galon. Er mwyn i blant dyfu i’w llawn botensial, dylent geisio cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos. Ac nid oes raid gwneud y 60 munud yma i gyd ar yr un pryd. Gellir ei rannu’n sesiynau llai, fel 2 x 30 munud neu 3 x 20 munud.
Mae gan rieni a gwarcheidwaid ran bwysig iawn i’w chwarae wrth ddylanwadu ar agwedd plant tuag at weithgarwch corfforol. Dydi hi byth yn rhy hwyr nac yn rhy gynnar i gael pobl ieuainc i fyw yn iach a’r peth cyntaf allwch chi ei wneud yw bod yn fodel rôl da. Gadewch iddynt wybod nad yw bod yn heini yn gorfforol yn golygu bod raid iddynt fynychu dosbarthiadau ymarfer na chymryd rhan mewn chwaraeon – dim ond dau opsiwn gwych yw’r rhain! Mae dringo neu wersylla, chwarae ffrisbi, trip i’r sw, rhaff sgipio, dawnsio neu saethu at gylch pêl fasged i gyd yn weithgareddau egnïol y gall y teulu cyfan eu mwynhau.
