Pobl Hyn
Mae’r brid newydd o bobl heini dros eu hanner cant sydd i’w gweld ar hyd a lled y wlad yn pwysleisio’r ffaith nad yw gweithgarwch yn nes ymlaen yn eich oes erioed wedi bod mor boblogaidd!
Boed yn croesi lawntiau golff neu’n plymio i ddyfroedd y pyllau nofio lleol, mae pobl dros 50 oed ym mhob cwr o Gymru’n elwa o’r manteision meddyliol, corfforol a chymdeithasol a geir yn sgil gweithgarwch corfforol.
Dywed arbenigwyr bod corff hyn yn gweithio’n llawer gwell wrth i chi ymarfer. Er bod gorffwyso ac ymlacio’n bwysig, mae’n hanfodol eich bod yn cynnwys gweithgarwch corfforol i aros yn egnïol, yn iach ac yn annibynnol pan yn hyn. Wedi’r cwbl, does dim diben byw i oedran teg os nad ydych yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol!
Yn aml iawn mae pobl yn drysu diffyg ffitrwydd gydag arwyddion o ‘dynnu ’mlaen’ ac maent yn dechrau arafu. Efallai fod hynny’n rhywbeth naturiol i’w wneud, ond mae rhoi eich traed i fyny wedi i chi fynd yn hyn yn beth peryglus ac fe all arwain at ddibyniaeth a salwch.Mae astudiaethau’n dangos yn gyson bod ymarfer yn rheolaidd yn gallu helpu i ostwng pwysau gwaed a lefel colesterol, lleihau’r risg o drawiad ar y galon a strôc a lleihau’r risg o ordewdra, y clefyd siwgr, rhai mathau o gancr ac osteoporosis, a rhoi hwb i’r system imiwnedd.
