Resources
SCW Equality Scheme 2009-2012 (247k)
SCW Equality Action Plan Latest addition Jan 2010 (58k)
SCW Equality Scheme Welsh Feb 2010 (248k)
SCW Equality Action Plan Latest addition Welsh Version Jan 2010 (58k)
SCW Equality Scheme Welsh Feb 2010 (248k)
SCW Equality Action Plan Latest addition Welsh Version Jan 2010 (58k)
Cydraddoldeb
Gweledigaeth Cyngor Chwaraeon Cymru ar gyfer Cydraddoldeb
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gwbl ymroddedig i sicrhau cydraddoldeb mewn chwaraeon a hamdden gorfforol. Mae Cynllun Cydraddoldeb y Cyngor Chwaraeon yn amlinellu ein dull proactif ni o weithio yn y maes hwn. Mae’n datgan ein hymroddiad i weithio tuag at sicrhau cydraddoldeb yn ein holl swyddogaethau, tra’n croesawu ysbryd o ddeddfwriaethau cydraddoldeb a chael gwared ar unrhyw ffurf ar wahaniaethu annheg.
Cynllun Cydraddoldeb CChC
Rydym yn credu’n gryf yn egwyddorion cydraddoldeb. Mae newidiadau diweddar i’r deddfwriaethau cydraddoldeb wedi rhoi mwy o gyfrifoldeb ar sefydliadau’r sector cyhoeddus i sicrhau eu bod yn mabwysiadu dull proactif o weithredu mewn perthynas â chydraddoldeb. O’r herwydd, mae’r Cyngor Chwaraeon yn hybu dull corfforedig o ddiweddaru ei Gynllun Cydraddoldeb a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig. Cydnabyddir mai cyfrwng yw’r cynllun i weithredu er mwyn bodloni dyletswyddau cyffredinol a phenodol. Yn y dyfodol, bydd y cynllun yn galluogi i CChC ddangos sut mae wedi ymgynghori, sut mae wedi gweithredu a’r canlyniadau mae wedi’u sicrhau.
Mae Cynllun Cydraddoldeb CChC yn gyfredol o Fedi 2009 ymlaen. Bydd Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb CChC yn cael ei ddiweddaru bob mis Ionawr, Mai a Medi.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Emma Tobutt, yr Uwch-Swyddog ar gyfer Cydraddoldeb ac Amddiffyn Plant
Ffôn: 029 2033 8285 e-bost: emma.tobutt@scw.org.uk
