Amdanom Ni

Prif-Ffrydio y Iaith Gymraeg

Ystyr prif-ffrydio yw ystyried yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar waith Cyngor Chwaraeon Cymru, er mwyn manteisio ar bob cyfle i:

1. Hybu a chefnogi’r iaith Gymraeg

2. Cyfrannu at weledigaeth y Cynulliad o Gymru gwbl ddwyieithog

3. Cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg

Mae Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor yn datgan bod raid i’w bolisi ddatblygu strategaeth "Prif-Ffrydio" ar gyfer yr iaith Gymraeg, yn datgan sut mae’n bwriadu cyflwyno ei ymrwymiadau i’r iaith Gymraeg drwy gyfrwng ei weithgareddau o ddydd i ddydd.