Amdanom Ni

Cyrff Rheoli Cenedlaethol

Mae cynlluniau gweithredol yr iaith Gymraeg wedi cael eu creu i brif-ffrydio’r iaith Gymraeg a rhoi lle blaengar iddi yng ngweithgareddau datblygu’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) a ganlyn ar gyfer chwaraeon:

  • Rygbi
  • Pêl Droed (Ymddiriedolaeth CBDC)
  • Pêl Rwyd
  • Hoci
  • Nofio
  • Hwylio
  • Canŵio
  • Tenis Bwrdd
  • Golff (Datblygu Golff Cymru)
  • Sboncen (2008)

Mae’r gwaith gyda’r CRhC yn troi o amgylch canfod hyfforddwyr, aelodau a gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith a defnyddio’r gweithlu hwn yn y mannau lle mae eu hangen, a sefydlir drwy gasglu data am lefelau cyfredol y gweithgarwch cyfrwng Cymraeg sy’n cael ei gynnal yn eu camp.

Yn allweddol i hyn roedd datblygu adnoddau hyfforddi a ffurflenni aelodaeth, gwirfoddoli a hyfforddi Cymraeg eu hiaith yn gofyn i ymgeiswyr safoni eu sgiliau iaith.

Mae mwy a mwy o CRhC yn cydnabod y fantais o ddatblygu eu camp gan ddefnyddio’r iaith Gymraeg erbyn hyn a rhagdybir y bydd mwy o CRhC yn ymuno â’r rhaglen yn y dyfodol.

Hyd yma, mae’r adnoddau dwyieithog a ganlyn wedi cael eu creu er mwyn i CRhC allu cyflwyno rhaglen addysgu hyfforddwyr / gwirfoddolwyr ddwyieithog.

Tabl o adnoddau

Tabl o ystadegau ar gyfer hyfforddwyr/ gwirfoddolwyr/ aelodau Cymraeg eu hiaith sydd wedi'u canfod ac esiampl o Gynllun Gweithredol

Esiamplau dethol o waith CRhC wedi'u rhestru isod :-

Pel Rwyd

SCUK LTAD

SCUK Cod Ymddigiad

Newyddion Sboncen - Hydref 2008

Rygbi Tag