Penawdau RSS
Beth yw Allborth RSS?
Mae RSS yn sefyll am ‘Really Simple Syndication’ ac mae’n ffordd wych o dderbyn cynnwys gwefan yn union i’ch cyfrifiadur. Gall unrhyw safle sy’n arddangos logo RSS gynnig ffynhonnell newyddion sy’n cael ei ddiweddaru yn gyson, a gwybodaeth, a drosglwyddid yn union i’ch cyfrifiadur. Mae hyn yn bosib drwy ddarn o feddalwedd a elwir yn gyd-gasglydd (aggregator), neu Ddarllenydd RSS (RSS Reader).
Mae’r darllenydd yn gwirio eich hoff wefannau sawl gwaith y dydd am newyddion newydd, i arbed eich amser rhag chwilio am yr hanesion newyddion diweddaraf.
Sut Byddaf yn Defnyddio RSS?
Bydd angen i chi lawr-lwytho Darllenydd RSS, ac mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim ar gael drwy chwilio peiriant chwilio eich gwefan. Mae angen i chi sicrhau fod Darllenydd RSS wedi’ osod yn eich cyfrifiadur i ddangos yr allborth yn gywir.
Newyddion diweddaraf o Gyngor Chwaraeon Cymru
I dderbyn y penawdau chwaraeon diweddaraf yng Nghymru yn union ar eich cyfrifiadur, yna arwyddwch i fyny i’n gwasanaeth allborth RSS newydd drwy glicio ar yr allbyrth islaw sydd fwyaf perthnasol i chi.
