Newyddion Diweddaraf

Ein Cyflawniadau

  • Mae mwy o bobl ieuainc nag erioed o’r blaen yn aelodau o glybiau chwaraeon
  • Gemau Olympaidd 2008 oedd y mwyaf llwyddiannus mewn 100 mlynedd i Gymru a dynion a merched y byd chwaraeon yng Nghymru oedd yn gyfrifol am ennill mwy na 25% o fedalau aur tîm Paralympaidd PF. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n darparu cefnogaeth wyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon gynhwysfawr a modern i athletwyr a hyfforddwyr.
  • Mae mwy na 134,000 o ddisgyblion cynradd yn cymryd rhan yng Nghampau’r Ddraig – ymgyrch Cyngor Chwaraeon Cymru i gael mwy o blant o ysgolion cynradd nag erioed o’r blaen i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon allgyrsiol
  • Mae 98% o ysgolion uwchradd Cymru wedi cofrestru’n awr ar gyfer cynllun 5x60 – rhaglen Cyngor Chwaraeon Cymru i gael mwy o ddisgyblion ysgolion uwchradd oddi ar y llinellau ochr ac i fwynhau chwaraeon allgyrsiol. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod 5 x60 nid yn unig yn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ond hefyd yn meithrin hunanhyder, yn gwella ymddygiad ac yn creu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer.
  • Mae rhaglen AG a Chwaraeon Ysgol y Cyngor Chwaraeon yn gwella safonau mewn AG mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru – mae Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Nghymru) wedi canmol y cynllun yn fawr ac wedi canfod bod agwedd ac ymddygiad y disgyblion wedi gwella yn ei sgil.
  • Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n sicrhau bod atebion lleol yn rhoi sylw i anghenion lleol. Gan weithio gyda’r Cyngor Chwaraeon, gwnaed cynlluniau gan bob awdurdod lleol sydd eisiau defnyddio’r rhaglenni a’r gefnogaeth sydd ar gael gan y Cyngor Chwaraeon. Gan weithio gyda phob Awdurdod Lleol, mae’r targedau’n gadarnach nag erioed o’r blaen yn awr a bydd hynny’n gweithio tuag at gynyddu cyfranogiad a gwella perfformiad.
  • Ers 1999, mae cynllun grantiau graddfa fechan y Loteri Genedlaethol gan y Cyngor Chwaraeon, sef Y Gist Gymunedol, wedi cyfrannu mwy na £9 miliwn tuag at fwy na 12,000 o brosiectau cymunedol. Mae pwyslais pennaf y rhaglen ar hyfforddi gwirfoddolwyr fel nad oes raid i glybiau dalu am gyrsiau hyfforddi.
  • Mae nifer y cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i bobl ag anableddau wedi cynyddu’n aruthrol ers lansiad rhaglen gymunedol Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2000. Yn 2008-9, roedd mwy na 350,000 o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Ers dyfodiad y Loteri Genedlaethol, mae’r Cyngor Chwaraeon wedi buddsoddi mewn cyfleusterau allweddol – Felodrom Cenedlaethol Cymru, Pwll Cenedlaethol Cymru, canolfannau cenedlaethol a rhanbarthol mewn nifer o chwaraeon, fel athletau, nofio a golff. Y darn diweddaraf yn y jig-sô yw’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol ar gyfer rygbi.